interreg eu

INTERREG IIIA A Community Initiative which promotes cross-border, transnational and inter-regional co-operation in the European Union and its border regions. INTERREG IIIA supports joint Irish/Welsh projects with the aim of promoting the sustainable development of the cross-border region through an integrated approach to economic, social and environmental development

Feile Clai | Clay Festival Logo cymraeg Monica K. Askim Potter Feile Clai | Clay Festival Logo cymraeg Thor Alex Erichson

 

Fforwm Datblygy Proffesiynol - 1 Gorffennaf 2005

a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth 

 

Cafwyd cyflwyniadau gan Marta Donaghey, Cerameg Gyfoes – Siop CPA Llundain

Dechreuodd hi trwy drafod pwysigrwydd y sesiwn ffotograffiaeth a oedd i ddilyn. “Amseroedd diddorol – rhaid i ni i gyd ymaddasu”

Martin Avery, Ffotograffydd Proffesiynol

 “Y rheswm bod angen ffotograffiaeth dda yw oherwydd, weithiau, dyna’r unig dro y bydd pobl yn gweld eich gwaith”. “Dyma’ch unig gyfle.”

 

Simon Hulbert

Cyflwynodd Simon ei hun gydag ychydig fanylion am ei gefndir yn grochenydd ac yn berchennog oriel. Gellir anfon nodiadau Simon ar gais.

 

Pete Goodridge:

Prisio  cynhaliol /elw, beth sy’n gwerthu, beth sy’n ateb gofynion y farchnad? Pam mae pobl yn prynu?

Tiwtor arferion proffesiynol, mae o’n dweud wrth fyfyrwyr am beidio â bod â disgwyliadau afrealistig. “Cael nodau y gellir eu cyrraedd.”  “Adeiladu hyder ar sail llwyddiannau bach”

“Mae’n bwysig dod o hyd i’ch marchnad!”. Mae’r weithred o wneud yn rhoi pwysau ar y gwneuthurydd, sicrhau trafodaethau gwybodus.

Pam arddangos?

Adeiladu’ch C.V., codi’ch proffil

 

Carol McNicoll: Ceramegydd llawn amser.

Dechreuodd Carol ei chyflwyniad â CV ei chefndir; disgrifiodd ei hun fel  “gwneuthurydd obsesiynol.”

Dangosodd Carol sleidiau o’i gwaith ôl-dremiol a diweddar.

“Dw i wrth fy modd gyda’r ffordd rydyn ni’n cael ein dwyn i mewn i brynwriaeth gyfalafol; tynnais i lun o ddynes yn gwisgo Moschino a’i roi ar bot castin slip.

“Hyd at bedair blynedd yn ôl, ro’n i’n dysgu. Golygai hyn ei bod yn bosib i mi ddal ati gyda’m cerameg. Dw i’n goroesi – cael a chael – un eitha’ da am oroesi ydw i.”

 

Barbara Jones: Y Cyngor Crefftau

www.craftscouncil.org.uk

www.reference@craftscouncil.org.uk

020 7806251

 

Dechreuodd Barbara trwy esbonio bod y Cyngor Crefftau’n addas i “bob lefel o wneuthurwyr.”

 “Y Cam Nesaf”- ar gyfer graddedigion diweddar. Mae’n gynllun preswyl ar gyfer busnesau crefftau mewn coleg. Mae’n cynnwys cynllun mentora.

Tiwtor – graddedigion. Graddedigion – myfyrwyr. Mae’n cynnwys stiwdio ddi-rent mewn coleg, grant cynnal gwerth £6000, grant busnes gwerth £1000, a’r hawl i ddefnyddio offer arbenigol.

 

Mae “One Year On” yn arddangosfa yn Sioe Fasnachol y Cynllunwyr Newydd. Gan gynnwys gwaith o’r flwyddyn gyntaf ers ymsefydlu. “Y gorau o gnwd y llynedd.”

 

“Ffair Grefftau Chelsea, digwyddiad dethol bob mis Hydref. 900 o geisiadau am 200 o lefydd.

Esboniodd Barbara eu bod yn chwilio am fentrau newydd i’w hehangu, oherwydd niferoedd uchel yr ymgeiswyr.

Mae prynwyr lleol yn mynychu – 1.3 miliwn. “Cyfle rhyngweithio ydy o.”

 

Collect- Sioe oriel amgueddfa V&A ym mis Ionawr 2005. Cyflwyniadau o waith gwneuthurwyr a gynrychiolwyd trwy’r oriel.

Crefftau Prydain yn Siapan-

 

Ffair Anrhegion Ryngwladol Efrog Newydd.

Yna cyflwynodd Barbara gyfleoedd eraill a gynigir gan y Cyngor Crefftau, e.e. Canolfan Adnoddau’r Cyngor Crefftau.  

Hefyd, soniodd hi am y Gofrestr Genedlaethol o wneuthurwyr.

 

Natalie Camus

Cyngor Celfyddydau Cymru

www.artswales.org

 

Dechreuodd Natalie â hanes byr Cyngor Celfyddydau Cymru. Esboniodd fod Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys tair swyddfa.

Ceir pedwar math o grantiau sy’n cynnig cyfleoedd cyllido i wneuthurwyr:

1= Grantiau Prosiect= £250- £5,000

2= Grantiau Cynhyrchu £5,001-£20,000

3= Cymru Greadigol = £5,001-£10,000, a £20,00-£25,000

4= Grantiau Hyfforddi= £3250-£5,000

 

 

 

Ar ddiwedd y dydd, daeth y sgyrsiau i ben, wedi’u dilyn gan sesiwn gwestiwn ac ateb  fywiog:

 

Am adroddiad cyflawn ar y diwrnod hwn, gofynnwch i:

 

Sophie Bennett

dan ofal Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, PCA, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DE

sophiebennett@feileclai.com

 

 

 

Gyngor Crefftau IwerddonChanolfan y Celfyddydau AberystwythYr Wyl Gerameg Ryngwladol