|
JOHN WHEELDON.
‘EINIOES MEWN CERAMEG’
Medi 3ydd Seminar, 2005: Canolfan y Celfyddydau. Cymru.
Dangosodd JOHN WHEELDON enghreifftiau o’i waith o’r adeg gynharaf hyd y ydd heddiw. Bu’n hael wrth gynnig cyngor technegol, ryseitiau a storïau.
Mae wedi defnyddio gwydredd gwyn mat gyda Tennoku neu staeniau gwydredd oren (yn debyg i’r rhai a ddefnyddiwyd gan David Leach), wedi’u gosod â sbwng 50% Neffelin a Syonit gyda 50% Calsid Homid (Clai Pêl Haearn Uchel).
Mae’n defnyddi “defnydd T” gyda chymysgedd o ocsidiau wedi’u tylino iddo - copr, haearn, manganîs a chobalt.
Rysáit Terra Sigilata:
“I wneud Terra Sigilata mae angen tua 2 kg o glai a datglystyrwr (mewn bin sbwriel llawn dwr) i dorri’r clai, oherwydd bod angen dwr i fynd i mewn i’r holl ronynnau. Ar ôl gadael y clai am wythnos, rydych yn ei gymysgu â chymysgwr trydan. (Nid yw cymysgu â llaw cystal – heb gymysgwr mae’n rhaid i chi fwydo, troi, mwydo, troi.)
Ystyr Terra sigilata yn llythrennol yw “Sêl Pridd”, Mae symudiad Browniwm yn cadw’r clai mewn daliant. Ar ôl wythnos, mae’r dwr yn cael ei ddraenio. “Mwya i gyd o ddwr sy’n cael ei ddraenio, lleia i gyd o sglein a geir yn y Terra siglata,” yn ôl John. “Byddai’r Rhufeiniaid yn ei ddefnyddio. Gall clai ar gyfer trin ffynhonnau weithio’n dda. Daw’r clai hwnnw o gloddfa ger rhostir Brassington.”
Rysáit gwydredd copr
Rysáit gwydredd copr John yw: Copr 90%, Ffrit 10% (Alcalin, gyda thamaid bach o fentonit, tua 3%), a thua 1% past papur wal Polycell i gadw’r daliant yn y bwced.
|