interreg eu

INTERREG IIIA A Community Initiative which promotes cross-border, transnational and inter-regional co-operation in the European Union and its border regions. INTERREG IIIA supports joint Irish/Welsh projects with the aim of promoting the sustainable development of the cross-border region through an integrated approach to economic, social and environmental development

Feile Clai | Clay Festival Logo cymraeg Monica K. Askim Potter Feile Clai | Clay Festival Logo cymraeg Thor Alex Erichson

 

John Wheeldon yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth 

Seminar  Féile Clai 3ydd Medi.

 

Arddangosiadau a thrafodaeth ar ailgylchu i grochenwyr yn y stiwdio 3D

 

Drwy gydol ei arddangosiad, esboniai John ei fethodolegau a’i athroniaeth i’r cynadleddwyr.

 

Mae’n defnyddio “deunydd ST wedi’i gymysgu â chlai wedi’i adfer”

 

Bu John yn trafod yr arfau roedd yn eu defnyddio, gan ddweud na fydd yn defnyddio llawer iawn o offer sydd wedi’i weithgynhyrchu. Ymhlith enghreifftiau o arfau hapgael ac wedi’u gwneud â llaw oedd gloyweddwr Letraset wedi’i ailgylchu, gwifren wedi’i gwneud o begiau coed caled wedi’u hadfer o hen gasgenni cwrw mewn tafarn leol. (“Sydd ddim fel ‘sen nhw’n pydru”) a chardiau credyd, cyllell fwrdd wedi’i hailgylchu, coes brwsh paent ailgylchedig a llafn haclif i blant – “wedi’i ch’nesu fel y gallwch ei phlygu – gan ‘u bod wedi’u g’neud hefo dur wedi’i galedu, mi wnân nhw bara am amser hir.”

 

Bydd John hefyd yn ailgylchu’i glai, gan ei adael weithiau am flwyddyn.

Yna, dangosodd John offeryn “amlbwrpas” – y bydd yn ei ddefnyddio i erwino ymylon. Offeryn ailgylchedig arall oedd hwn – torrwr hogydd pensiliau trydan. Bydd yn ei ddefnyddio at adeiladu slabiau. Eglurodd sut y bu’n ei rwbio mewn hambwrdd o WD40 sy’n atal yr offeryn rhag glynu wrth y clai. Mae’n creu ymyl addurnedig, rhesog.

 

Mae’i lusgydd slip yn ailgylchedig hefyd, nodwydd pigiad meingefn, o ddur di-staen fel nad yw’n rhydu. Mae hefyd yn defnyddio hen bibell casgen gwrw i ffurfio pennau blaen ar gyfer ei lusgyddion slip “sy’n cael eu cynhesu dros dwll yr odyn a’i ymestyn. Mae’n hyblyg – yn dda ar gyfer ysgrifennu.” Mae wedi gwneud troell o hen chwaraeydd recordiau, ac un sy’n defnyddio beryn rhyddhau cydiwr hen Ford Capri. Yn ôl John, nid yw wedi prynu unrhyw offer newydd ers gadael y coleg. Mae’i holl offer bellach yn ail law.”

 

Yn ystod y trafodaethau hyn, roedd John wrthi’n paratoi i raku-io, gan ddefnyddio tun Frankfurter wedi’i ailgylchu o sgip yn Awstria, a blawd lli pinwydd/adeiladydd. Ei gyngor os yw’r blawd lli’n llaith, yw defnyddio ychydig sbirit gwyn – “ond peidiwch byth â’i ddefnyddio wrth losgi – Iechyd a Diogelwch!!” Rhoddodd John y blawd lli ar silff odyn, yn barod i roi’r potiau poeth ar ei ben.

Roedd John drwy’r adeg yn ofalus i wisgo dillad diogel addas (rhai ohonynt roedd o ei hun wedi’u gwneud) gan bwysleisio pwysigrwydd gofalu amdanoch chi’ch hun ac eraill wrth danio’i odyn.

Gyngor Crefftau IwerddonChanolfan y Celfyddydau AberystwythYr Wyl Gerameg Ryngwladol