|
Pwy ydym ni?
Partneriaeth yw’r prosiect Féile Clai rhwng Gwyl Gerameg
Ryngwladol Cymru a Chymdeithas Crochenwyr Crefft Iwerddon.
O ble’r ydym yn derbyn ein cyllid?
Mae’r prosiect yn derbyn cyllid Amcan 1 ERDF Ewropeaidd o dan fenter
111a Interreg gyda chymorth cyfatebol gan
Gyngor Crefftau Iwerddon a Chanolfan
y Celfyddydau Aberystwyth.
Beth ydym yn ei wneud?
Bydd Féile Clai yn creu partneriaeth
newydd rhwng Iwerddon a Chymru i hyrwyddo’r diwydiant cerameg yn
y ddwy wlad. Bydd y prosiect yn cefnogi gwneuthurwyr newydd a busnesau
cerameg bychain i greu gwaith uchel ei safon ac i hyrwyddo hyn am y gorau.
Mae digwyddiadau Féile Clai yn y
ddwy wlad yn anelu at ddarparu cyfuniad o gymorth, arweiniad a thechnegau
ymarferol a fwriedir i fod o fudd i wneuthurwyr/busnesau newydd. Bydd
Féile Clai yn darparu system ysgoloriaeth
i wneuthurwyr newydd, dosbarthiadau cerameg gyda’r meistri, dwy
arddangosfa gerameg bwysig ar gyfer gwaith newydd, un arddangosfa bwysig
gan wneuthurwyr sefydledig yng Nghymru ac Iwerddon a dwy wyl gerameg yn
y ddwy wlad yn eu tro.
Sut y gall Féile Clai fy helpu?
A ydych wedi graddio mewn cerameg yn ddiweddar (hyd at bum mlynedd)?
Neu
A ydych newydd ddechrau’ch Busnes Cerameg eich hunan (hyd at bum
mlynedd)
Ac
Angen cymorth/cyngor/ cefnogaeth neu hyfforddiant?
Neu
A ydych eisiau hyrwyddo’ch gwaith yn y ffordd orau bosibl?
Yna, gallwn eich helpu.
Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda digwyddiadau
Féile Clai, gwybodaeth
fuddiol a chysylltiadau.
|