DATGANIAD CYFARTALEDD CYFLE
Sefydliad sy’n ymroddedig i gyfleoedd cyfartal yw Prosiect Féile Clai gan hybu ethos cyfartaledd mynediad gan gefnogi amrywiaeth.
Ni fydd Prosiect Féile Clai’n dygymod â gwahaniaethu ar unrhyw ffurf, er enghraifft ar sail ethnigrwydd, rhywedd, anabledd, crefydd, argyhoeddiad gwleidyddol, oedran, tueddfryd rhywiol, amgylchiadau personol neu unrhyw ffactor amherthnasol arall ar wahân i amgylchiadau eithriadol a ganiateir gan ddeddfwriaeth.
Bydd Prosiect Féile Clai’n cymryd camau cadarnhaol i gefnogi cyfartaledd mynediad, lle y mae deddfwriaeth yn caniatáu hynny, gan gynnwys cynnig Hyfforddiant Gweithredu Cadarnhaol a darpariaeth arbennig ar gyfer y rheini sy’n amddifad yn gymdeithasol neu’n economaidd.
Thema yw Cyfartaledd Cyfle, sy’n rhedeg trwy holl bolisïau gweithredu Prosiect Féile Clai, a dylid dehongli a gweithredu’r holl bolisïau yn y cyd-destun hwn.
GWEITHREDU
-
Cyflogeion Prosiect Féile Clai
Cyflogir y cyflogeion yn amodol ar gynnal y polisi hwn yn eu gwaith beunyddiol. Ystyrir bod torri’r polisi hwn yn fater disgyblu.
-
Cleientiaid Prosiect Féile Clai (i gynnwys pob unigolyn sy’n defnyddio cyfleusterau a gynigir gan Brosiect Féile Crai). Mae’r cyfle i ddefnyddio cyfleusterau Prosiect Féile Clai’n amodol ar yr holl gleientiaid yn tanysgrifio i’r polisi hwn. Ystyrir bod torri’r polisi hwn yn drosedd disgyblu difrifol a all arwain at waharddiad.
-
Contractwyr (i gynnwys pawb sy’n contractio i ddarparu nwyddau neu wasanaethau i Brosiect Féile Clai). Cynhwysir y polisi hwn fel amod contractio ar gyfer yr holl gontractwyr sy’n gweithio i Brosiect Féile Clai ac mae rhaid i bob contractiwr ymddwyn mewn ffordd sy’n gydnaws â’r polisi hwn.
-
Partneriaid (i gynnwys y rheini sydd â pherthynas ddigontract â Phrosiect Féile Clai)
Ni fydd Prosiect Féile Clai’n cydweithio mewn partneriaeth ond â sefydliadau ac unigolion sy’n tanysgrifio i’r polisi hwn. Ystyrir bod ymddygiad sy’n groes i delerau ac ysbryd y polisi hwn yn ddigon i ddiddymu’r bartneriaeth.
-
Cwsmeriaid Eraill
Mae Prosiect Féile Clai’n cadw’r hawl i wrthod cyfleusterau i’r rheini nad ydynt yn tanysgrifio i’r polisi hwn neu mae eu hymddygiad neu’u gweithgareddau yn groes i’r polisi hwn ym marn Cyfarwyddwyr yr Wyl Gerameg Ryngwladol.
6) Bydd darparu mynediad cyfartal i’r canolfannau’n flaenoriaeth.
|