|
Bwrdd Bwletin Mae’r bwrdd bwletin yn gyfle i Grochenwyr Cymru ac Iwerddon rwydweithio a gwneud cysylltiadau gwerthfawr at y dyfodol. Os hoffech roi hysbysiad ar ein bwrdd bwletin, gosod cysylltiad â’ch gwefan chi’ch hunan a/neu roi gwybod i eraill am ddigwyddiadau pwysig yng Nghymru neu Iwerddon, gallwch e-bostio’r wybodaeth i sophiebennett@feileclai.com.
Cyfle i Wneuthurwyr Newydd a rhai sy'n Datblygu i arddangos a gwerthu eu gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth Fel rhan o brosiect Féile Clai, dewisir nifer o Wneuthurwyr Newydd a rhai sy’n Datblygu o ardaloedd INTERREG Cymru neu Iwerddon i arddangos a gwerthu eu gwaith yn Oriel Grefftau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. • Bydd y gwneuthurwyr hynny’n cael lle yn yr oriel am gyfnodau o chwe wythnos yn ystod y prosiect tair blynedd. • Bydd yr oriel yn cymryd comisiwn o 33% oddi ar y pris manwerthu. Mae TAW o 17.5% ar y comisiwn. Os hoffech gyflwyno’ch gwaith i gael ei ystyried, anfonwch CV diweddar a 6 sleid / llun trwy e-bost at sophiebennett@feileclai.com Astudiaeth Achos Hoffai Féile Clai dynnu sylw at wneuthurwyr newydd sydd wedi gwneud gyrfa lwyddiannus ym maes cerameg gyda’r nod o annog gwneuthurwyr eraill i wneud yr un peth. Testun ein Hastudiaeth Achos gyntaf yw Jane Jermyn.
O Fyfyrwraig i Helpwraig i Arddangoswraig Jane Jermyn - Crochenydd
Ym 1999, roeddwn yn astudio am HND yng Ngholeg Celf Sir Gaerfyrddin (Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru erbyn hyn). Gwersylla wnes i ac un o’m cyd-fyfyrwyr y flwyddyn honno - ond mae’n well o lawer gen i aros ar y Campws. Ar ôl graddio yn 2001 fe wnes i gais i ddod fel myfyriwr-helpwr. Roedd criw ohonon ni’n cofrestru’r cynadleddwyr ac roedd hynny’n braf iawn – roedd yn gyfle i gwrdd â phawb. Os oes rhywun o ddifrif ynghylch cerameg, byddwn yn argymell iddyn nhw ddod i’r wyl fel myfyriwr-helpwr. Mae’n brofiad gwych ac rydych chi’n cael cwrdd â llawer o wneuthurwyr profiadol a’u helpu. Yno, ges i sgwrs gyda Janet Mansfield am ffrind i ni’n dwy oedd yn Awstralia a soniais fy mod yn gobeithio mynd i weithio ato ryw bryd. Holodd hi beth oeddwn i’n ei wneud a soniais wrthi am fy ngwaith crasu gwlyb. Awgrymodd hi fy mod yn ysgrifennu erthygl i’r cylchgrawn ‘ceramicsTECHNICAL’ am fy ngwaith. Gwnes i hynny ac roeddwn wrth fy modd pan gafodd yr erthygl ei chyhoeddi yn y rhifyn nesaf, rhif 13. Tua’r adeg honno, dewiswyd fy ngwaith ar gyfer ‘Setting Out 2002’ – arddangosfa o waith Myfyrwyr Cerameg a gynhelir yn ‘Contemporary Ceramics’ yn Llundain bob blwyddyn. Os dewisir eich gwaith, cewch wneud cais am ysgoloriaeth i deithio. Enillais i un a helpodd hynny fi i gyrraedd Awstralia. Yn yr arddangosfa, dangosais yr eitem yn y cylchgrawn i Phil Rogers ac awgrymodd ef fy nghynnig ar gyfer Aberystwyth yn 2003. Roedd honno’n noson gyffrous iawn! Ar ôl y sioe, cysylltodd prynwr â mi - roedd wedi gweld fy ngwaith ac roedd ganddi ddiddordeb ynddo ar ran casglwr dienw - hyd heddiw, wn i ddim pwy! Cynigiodd fwy o arian nag oeddwn i’n ofyn gan ddweud ei fod yn ddyn cyfoethog a’i fod yn teimlo bod ‘dyletswydd’ arno i gefnogi artistiaid! Soniodd ei bod wedi prynu darn o waith Claudi Cassanovas ar gyfer ei gasgliad hefyd. Rwy’n edmygu ei grochenwaith ef a’i agwedd arloesol at ei waith yn fawr - hoffwn gwrdd ag e! Gyda’r arian, yn ogystal â mynd i Awstralia, llwyddais i fynd i Kecskemet fel artist preswyl. Pan oeddwn yno, daeth Steve Mattison draw a gofyn a hoffwn gyflwyno fy ngwaith yn Aberystwyth yn 2003. Roedd ganddo gontract yn y fan a’r lle. Dywedodd y gallai fynd â’r gwaith a wnes yn Kecskemet yn ôl i Aber ar gyfer arddangosfa’r cyflwynwyr. Cwrddais ag artist o Dwrci yno, Emre Feyzoglu, a oedd yn ymwneud â symposiwm blynyddol yn Avanos, Twrci. Gwahoddodd fi ac artistiaid eraill o Kecskemet i’r un nesaf yn fuan ar ôl gwyl Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2003. Fe ddes i nôl i Iwerddon ym mis Medi 2003 ac rwy’n byw yn Lismore, Swydd Waterford ers hynny. Llwyddais i sefydlu stiwdio fis Hydref diwethaf mewn cwt sinc bach ac, ers hynny, bu fy ngwaith mewn saith arddangosfa, yn cynnwys ‘Relative Space’ yn y Courthouse Arts Centre, Tinahely, gyda fy merch, Sarah Browne, sy’n arlunydd ac a raddiodd flwyddyn ar fy ôl i yng Nghaerfyrddin. Roeddwn yn un o wyth myfyriwr a wahoddwyd i arddangos eu gwaith yn ‘Common Ground’ yng Ngwyl Gelfyddydau Kilkenny i ddathlu chwarter canrif Grennan Mill Craft School. Cymerais ran hefyd yng Ngwyl Ryngwladol Cerameg Ôl-Fodern, Varazdin, Croatia, a chefais grant teithio gan Gyngor y Celfyddydau tuag at gost mynd yno. Ym mis Mehefin, mae fy merch Sarah a minnau wedi cael cynnig cyfnod preswyl o bythefnos yn Encil Artistiaid Cill Rialaig, Swydd Kerry.
|
||||||
![]() ![]() ![]() |