interreg eu

INTERREG IIIA A Community Initiative which promotes cross-border, transnational and inter-regional co-operation in the European Union and its border regions. INTERREG IIIA supports joint Irish/Welsh projects with the aim of promoting the sustainable development of the cross-border region through an integrated approach to economic, social and environmental development

Feile Clai | Clay Festival Logo cymraeg Monica K. Askim Potter Feile Clai | Clay Festival Logo cymraeg Thor Alex Erichson

Polisi Amgylcheddol

 

Mae Prosiect Féile Clai’n dilyn polisïau sy’n ymroddedig i gynnal yr amgylchedd a lleihau ei effaith negyddol ar yr amgylchedd o’i gwmpas yn ogystal â’r amgylchedd ehangach.

 

1) Prynu/Caffael Cynhyrchion:

 

Wrth brynu bydd Prosiect Féile Clai bob amser yn ystyried unrhyw ffactorau ac effeithiau amgylcheddol sydd ynghlwm wrth y nwyddau dan sylw ac felly bydd yn:

 

  • Sicrhau y bydd arbed ynni a chynaladwyedd adnoddau yn cael eu hystyried wrth gynllunio a gweithredu prosiectau cyfalaf.

  • Sicrhau hefyd y defnyddir cynhyrchion ailgylchedig lle bynnag y bydd modd mewn prosiectau cyfalaf. 

  • Prynu cynhyrchion pren gan gyflenwyr a gofrestrir dan gynllun Nod Coed Cymdeithas y Pridd lle bynnag y bydd modd.

  • Prynu offer gweinyddol, e.e. papur/cerdyn, sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, e.e. sy’n ailgylchedig neu’n dod o ffynhonnell adnewyddadwy.

  • Sicrhau nad yw defnyddiau/cemegau glanhau a ddefnyddir bob dydd gan y cwmni’n cynnwys cynhwysion a all achosi difrod i’r amgylchedd.

 

2) Ailgylchu Defnyddiau Gwastraff

 

Mae Prosiect Féile Clai’n ymroddedig i weithredu er mwyn hybu cynllun ailgylchu mewnol yn ogystal ag i annog ailgylchu yn y gymuned ehangach.

 

  • Cynhelir, a lle bynnag y bydd modd atgyfnerthir, gyswllt â mentrau lleol sy’n ymwneud ag ailgylchu a lleihau gwastraff.

  • Bydd offer swyddfa ac eitemau eraill heb eu defnyddio a ddynodir yn wastraff yn cael eu hailgylchu trwy sefydliadau perthnasol lle bynnag y bydd modd.

  • Darperir mannau ar gyfer ailgylchu papur neu gerdyn.

  • Lleiheir printio trwy ddefnyddio e-bost a chyfleusterau TGCh.

  • Darperir a hybir mannau ar gyfer ailgylchu gwydr.

  • Darperir a hybir mannau ar gyfer ailgylchu alwminiwm a chaniau deufetel.

 

 

3) Unrhyw Ffactorau Ychwanegol

 

  • Hybir defnyddio cludiant cyhoeddus i’r holl staff.

  • Anogir defnyddio cynhyrchion arbed ynni fel bylbiau golau.

  • Bydd gwres a golau’n cael eu monitro rhag gorddefnyddio a all amharu ar yr amgylchedd.

  • Anogir defnyddio cynadledda fideo er mwyn lleihau teithio.

  • Arferir dulliau cadwraeth wrth ddefnyddio dwr lle bynnag y bydd modd.

 

Gyngor Crefftau IwerddonChanolfan y Celfyddydau AberystwythYr Wyl Gerameg Ryngwladol